‘RUBADUB CYMRAEG’ ydy enw’r sengl ddiweddaraf i’w rhyddhau gan Morgan Elwy.
Mae’r trac newydd allan ers dydd Gwener diwethaf, 4 Awst, ar label Recordiau Bryn Rock.
Mae ‘RUBADUB CYMRAEG’ yn gân i ddathlu ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol gyda Llŷn ac Eifionydd eleni.
Wedi ei chymysgu gan Toby Davies o’r grŵp rhyngwladol Gentlemen’s Dub Club a’i recordio yn Stiwdio 1, mae’r gân yn cynnwys Gruff Roberts ar y dryms, Edwin Humphreys ar yr offerynnau pres a Mared Williams fel llais cefndirol.
Mae’r sengl ddiweddaraf yn ddilyniant i’w sengl ddiweddar boblogaidd, ‘Supersonic Llansannan’ a ryddhawyd ddiwedd mis Mehefin, a sy’n deyrnged i bentref lleol y cerddor.