Sengl newydd Paris Fouladi allan rŵan, ac EP ar y ffordd 

Mae Parisa Fouladi wedi rhyddhau ei sengl newydd, ‘Araf’, ar Recordiau Piws. 

Mae’r artist wedi cael haf digon prysur, a hithau’n perfformio ar Lwyfan y Maes yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn ogystal ag yng ngwyliau Tafwyl a Focus Wales. Cyhoeddwyd y byddai hefyd yn perfformio yng Ngŵyl Sŵn yn yr Hydref, ac yn nigwyddiad Trawsnewid yn Aberystwyth flwyddyn nesaf. 

Dyma’r sengl gyntaf oddi ar ei EP newydd fydd yn cael ei rhyddhau cyn bo hir. 

Cyfunir ei llais emosiynol a chryf gyda churiadau hip-hop esmwyth, a strwythur gwahanol i’r arfer yn cynnig cyfansoddiad soffistigedig ond ymlaciedig. 

Mae’r gân yn sôn am golli a dod yn ôl mewn perthynas, drwy blethu torcalon a darganfod gobaith o’r newydd. 

Fe’i cyfansoddwyd ynghyd â’r offerynnwr a’r cyfansoddwr Charlie Piercey, a’r cynhyrchydd Krissie Jenkins. 

Daw ysbrydoliaeth y gân hon, fel gweddill ei chaneuon, o’i phrofiadau ei hun ac o faterion byd-eang y mae’n teimlo’n angerddol amdanynt. 

Dyddiadau gigs Parisa Fouladi:

28 Medi – The Bunkhouse, Abertawe 

14 Hydref – Memo, Y Barri 

22 Hydref – Gŵyl Sŵn, Caerdydd 

Dyma fideo ‘Araf’ a gyhoeddwyd ar gyfryngau Lŵp yn ddiweddar:

Gadael Ymateb