Mae’r cynhyrchydd o Gaernarfon, Endaf, wedi rhyddhau ei sengl cydweithredol newydd ers dydd Gwener diwethaf, 6 Ionawr.
SJ Hill ydy ei bartner cerddorol diweddaraf, ac enw’r trac newydd gan y ddau ydy ‘Crazy Love’ sydd allan ar label Endaf, High Grade Records.
Cafodd y bartneriaeth artist/cynhyrchydd hwn ei greu fel rhan o brosiect Honey Sessions, sy’n cael ei arwain gan Sizwe Chitiyo. Prosiect ydy hwn sydd wedi’i gynllunio i hyrwyddo cerddoriaeth MOBO gan artistiaid Cymreig.
‘Crazy Love’ yw canlyniad y paru hwn – trac RnB sy’n arddangos perfformiad lleisiol diymdrech SJ Hill a sgiliau cynhyrchu llyfn fel menyn Endaf.
Mae’r sengl ddiweddaraf hon yn dilyn llwyddiant SJ Hill yn ei sengl flaenorol, ‘Strongest Feeling’ ac ar ôl ennill sioe dalent ITV ‘Romeo and Duet’ yn gynharach eleni.
Mae Endaf wedi gwneud enw iddo’i hun fel cynhyrchydd yn gweithio gydag artistiaid Cymraeg yn y gorffennol a dyma un o’i draciau gwreiddiol cyntaf gyda geiriau Saesneg, gyda’r nod o sefydlu ei hun y tu hwnt i ffiniau Cymru. Dyfarnwyd cronfa momentwm PPL iddo yn ddiweddar i help tuag at yr achos hwn.
Yng ngeiriau y gweithiwr A&R Benji Akpojaro sy’n gweithio i gronfa Media a Sony Music – “Cân wedi’i hadeiladu’n dda iawn, yn ddeinamig ac yn mynd â chi ar daith, yn gryf iawn ar nifer o lefelau”.
Mae Endaf wedi cyd-weithio gyda llwyth o artistiaid amrywiol dros y cwpl o flynyddoedd diwethaf gan gynnwys Eädyth, Ifan Pritchard, Sera ac Ifan Dafydd.