Mae The Gentle Good wedi rhyddhau eu sengl newydd, a’r ail sengl o’i albwm nesaf fydd allan ym mis Medi.
‘Mae’r Ddaear yn Glasu’ ydy enw’r trac newydd a fydd hefyd yn ymddangos ar ei bumed albwm, sef Galargan.
The Gentle Good ydy prosiect y canwr gwerin profiadol o Gaerdydd, Gareth Bonello.
Mae’r sengl newydd yn ddilyniant i’r blas cyntaf a gafwyd o’i record hir, ‘Pan own i ar Foreddydd’, a ryddhawyd ym mis Ebrill eleni.
Casgliad cynnil o ganeuon gwerin Gymreig sydd ar yr albwm, sydd wedi’u perfformio gyda’r gitâr acwstig, y llais a’r soddgrwth. Trefnwyd y caneuon yn ystod y pandemig ac maent wedi eu trwytho gan y tristwch a ddeilliodd o’r cyfnod unig hynny.
Daw’r alaw ar gyfer ‘Mae’r Ddaear yn glasu’ gan John Owen o Ddwyran, Sir Fôn, ac yn wreiddiol gan Robert (Robyn) Hughes. Mae geiriau John Howel (Ioan Glandyfroedd, 1774-1830), yn llywio darlun bywiog o’r gwanwyn gyda’r adar yn canu a pherllannau’n llawn blodau.
Mae trywydd y gân yn newid yn y pennill olaf, gyda’r geiriau’n cario neges ddyngarol sydd mor berthnasol ag erioed:
Mae’r ddaear fawr ffrwythlon a’i thrysor yn ddigon,
i borthi’i thrigolion yn dirion bob dydd,
pe byddem ni ddynion mewn cyflwr heddychlon,
yn caru’n un galon ein gilydd
Bydd ‘Galargan’, albwm newydd The Gentle Good, allan ar Recordiau Bubblewrap ym mis Medi 2023.