Mae’r band o Gaerdydd, Wigwam, wedi rhyddhau eu sengl newydd ers dydd Gwener 1 Rhagfyr.
‘Trueni’ ydy enw’r trac diweddaraf ganddynt ac mae’n dilyn cyfres o ganeuon mae Wigwam wedi eu ryddhau yn 2023.
Mae’r gân yn ffrwydrad pwerus o bop amrwd ac yn dangos elfen fwy trwm a slacker i’r band, gyda dylanwadau fel Teenage Fanclub, Alvvays a Big Star i’w clywed ar y trac.
Mae ‘Trueni’ yn archwilio’r ofn a’r diogrwydd sy’n gyffredin ymysg pobl yn eu hugeiniau cynnar. Mae’r geiriau sych yn myfyrio ar y pwysau o fod mewn cystadleuaeth gyda’ch cyfoedion, gan wthio yn erbyn y syniad o ramantu gweithio’n ddi-stop er mwyn symud ymlaen gyda gyrfa ddiflas.
Daw’r gwaith celf gan Beca Ellis / SWSIHI, ac mae’n ddilyniant o’i gwaith ar senglau eraill y band. Recordiwyd y trac gyda Mei Gwynedd yn Stiwdio JigCal.
Wrth iddynt gloi’r flwyddyn gyda sengl arall, dywed Wigwam eu bod yn edrych ymlaen at flwyddyn brysur yn 2024.