Mae’r y band gwerin bywiog NoGood Boyo wedi rhyddhau eu sengl ddiweddaraf.
‘Just a G.O.A.T’ ydy enw’r trac diweddaraf ganddynt sy’n atgyfodiad o gân Gymraeg glasurol, gan roi eu stamp arallfydol arbennig arni.
Mae’r sengl newydd yn ddilyniant i ‘Not My King’ a ryddhawyd gan NoGood Boyo ym mis Mai eleni.
Mae ‘Just a G.O.A.T’ yn nodi cam nesaf yn nhaith gerddorol NoGood Boyo, ac yn adeiladu ar y momentwm a grëwyd yn dilyn eu haf prysur o gigs.
O’r Alban i dde Orllewin Lloegr, mae’r band wedi teithio bob twll a chornel y DU dros y misoedd diwethaf.
Bydd fideo cerddoriaeth ar gyfer y sengl yn ymddangos ar Lŵp ddydd Llun 11 Medi.
Dyma fersiwn fyw o’r gân yn Sesiwn Fawr Dolgellau llynedd: