Mae’r band Cwtsh wedi rhyddhau eu sengl ddiweddaraf.
‘Dirgelwch’ ydy enw’r trac newydd gan y band sy’n cynnwys criw o gerddorion profiadol.
Cwtsh ydy Alys Llywelyn-Hughes, sydd hefyd yn perfformio dan yr enw Lunar Glass; a Siôn Lewis, fu’n aelod o nifer o grwpiau fel Edrych am Jiwlia, Y Gwefrau ac Y Profiad yn y gorffennol.
Mae gweddill aelodaeth y band wedi newid tipyn yn ddiweddar, gyda’r trydydd aelod gwreiddiol, Betsan Evans, yn gadael. Mae’r lein-up newydd yn cynnwys, Alun Owens ar y bas, Huw Evans (bas/drymiau), Cadi Thomas gynt o’r band Cadno ar yr allweddellau, a Mic Relf ar y drymiau.
Ar ôl ymddangos gyntaf yn ystod cyfnod clo 2020, glaniodd albwm cyntaf Cwtsh, ‘Gyda’n Gilydd’, ar y llwyfannau digidol yn Chwefror 2021, cyn dilyn ar ffurf CD ar ddechrau 2022.
Naws Nadoligaidd
Mae ‘Dirgelwch’ yn ddilyniant i’w sengl ddiweddar, ‘Hawl’, a ryddhawyd ym mis Medi eleni.
Wrth i ni agosau at dymor yr ŵyl, mae naws Nadoligaidd i ‘Dirgelwch’, er nad ydy hi’n gân Nadolig fel y cyfryw yn ôl canwr y band.
“Mae ’na glychau arni, sy’n rhoi ychydig o effaith Nadoligaidd arno” meddai Alys Llywelyn-Hughes.
“Er dio’m yn sôn am y Nadolig yn uniongyrchol, mae ’na elfen o sôn am wneud penderfyniad i fyw yn fwy heddychlon ynddi. Wrth gwrs, fyny i’r gwrandäwr feddwl am yr ystyr, ond dwi’n hoff o gynnig cân obeithiol yn y cyfnod yma.
“Mae’r neges sydd ynddi yn un sy’n addas i’r cyfnod yma ac i bob cyfnod i ddweud y gwir, sef bod hi wastad yn bosib dechrau eto a byw dy fywyd yn fwy gobeithiol.”
Hon yw’r bedwared sengl a’r un olaf i gael ei rhyddhau oddi ar ail albwm Cwts a fydd yn cael rhyddhau fis Chwefror nesaf.
Mae ‘Dirgelwch’ allan ar y llwyfannau digidol arferol gan gynnwys Bandcamp Cwtsh.