Mae’r prosiect cerddorol amgen, Sachasom, wedi rhyddhau ei sengl newydd.
‘Sbondigedig’ ydy enw’r trac newydd, a dyma’r cynnyrch cyntaf iddo ryddhau ar label newydd Inois.
Prosiect diweddaraf y cerddor Izak Zjalič o Fachynlleth ydy Sachasom ac roedd 2022 yn flwyddyn gofiadwy iddo wrth iddo gipio teitl cystadleuaeth Brwydr y Bandiau Maes B yn Eisteddfod Tregaron fis Awst.
Ychydig cyn yr Eisteddfod bu iddo ryddhau ei albwm cyntaf dan yr enw ‘Yr Offerynnols Uffernoliadaus!’.
Mae’r ‘Sbondigedig’, sydd allan yn swyddogol ers 1 Ionawr, yn ddilyniant i’r albwm hwnnw ac yn ddatblygiad i sŵn ‘Sachasom’ yn ôl y cerddor.
Epilog i’r albwm
Ers ei lwyddiant yn yr Eisteddfod, mae Sachasom wedi bod yn brysur yn gigio ar draws Cymru gydag ymateb da i synau ei albwm. Mae’r gigs yma wedi cynnwys perfformio gyda’r eicon cerddorol, Pat Morgan o Datblygu, ac mae hefyd wedi bod yn aelod o fandiau byw Crinc a skylrk.
“Mae cael gweld ymateb pobl i’r music yn really diddorol” meddai Izak.
“Ti byth yn siŵr be mae pobl yn mynd i neud o’r sŵn, dyna di’r darn exciting o music byw dwi’n meddwl.”
Yn ôl y cerddor mae’r sengl newydd yn ffordd addas o ddiweddu blwyddyn llwyddiannus iddo, ac yn cloi ‘cylch yr albwm’ gan ei baratoi at bethau newydd.
“Mae ‘Sbondigedig’ yn actio fel rhyw fath o epilogue i’r album” eglura Izak.
“Mae o’n dod o’r un teulu a Y.O.U (Yr Offerynnols Uffernoliadaus!) ond mae na flas o wbath gwahanol hefyd. O ni isio gallu cloi yr era yma efo wbath arall cyn gallu symyd ymlaen.”
Mae fideo wedi’i gyhoeddi i gyd-fynd â’r sengl sydd wedi’i gynhyrchu gan gwmni Trac42.