Mae Talulah wedi rhyddhau ei hail sengl ar label Recordiau I KA CHING.
‘Slofi’ ydy enw’r trac newydd sydd allan ers dydd Gwener diwethaf, 4 Awst.
Canwr, cyfansoddwr a DJ o Ogledd Cymru yw Talulah ac maent yn plethu jazz a synau clasurol gyda lleisiau breuddwydiol a harmonïau cyfoethog.
Mae ‘Slofi’ yn dilyn eu sengl gyntaf ‘Byth yn Blino’ gafodd ei rhyddhau fis Ebrill eleni.
“Mae’r gân yn myfyrio ar y broses o slofi lawr, a sut ma’ perthynas ar unrhyw ffurf yn gallu cryfhau hyn” meddai Talulah.
“Mae ganddi bassline cryf a churiad araf i amlygu ei hanfod gwreiddiol.”
Wedi’i ’sgwennu gan Talulah, ei chynhyrchu a’i chymysgu gan Llŷr Pari, a’i mastro gan Iwan Morgan, bydd ‘Slofi’ allan ar y llwyfannau digidol arferol.