Sengl Tesni ar y ffordd

Bydd y cerddor ifanc o Fôn, Tesni Hughes, yn rhyddhau ei sengl newydd ar 10 Chwefror. 

‘Cwestiynau’ ydy enw trydedd sengl Tesni, a dyma’r gyntaf iddi ryddhau ar label newydd Inois. 

Mae Tesni Hughes yn gerddor ifanc o Ynys Môn sy’n ysgrifennu caneuon gwreiddiol ac yn perfformio ar hyd Gogledd Cymru gydag ambell gig yn y De. 

Daeth i amlygrwydd gyntaf yn 2020 wrth gyhoeddi’r trac  ‘Pell i Ffwrdd’ ar-lein ac ers hynny mae wedi rhyddhau’r traciau pellach ‘Fflama i’r Tân’ ac ‘Atgofion’. 

Mae Tesni yn creu caneuon pop/rock/indie ac yn dwyn dylanwadau gan fandiau fel Breichiau Hir, Mellt ag Oasis. 

“Dwi rili excited i gallu rhyddhau y gân yma gan fod dwi heb ryddhau ers amsar ‘ŵan. Dwi byth di rhyddhau cân mor serious a hyn” meddai. 

Mae Tesni wedi bod yn gigio’n fwyfwy rheolaidd ac erbyn hyn yn perfformio gyda band byw ac yna dal i ddatblygu ei sŵn gyda’r gobaith o ryddhau mwy o gerddoriaeth.

Bydd cyfle i weld Tesni’n perfformio’n fyw ar ddyddiad rhyddhau’r sengl, sef Dydd Miwsig Cymru. Bydd yn chwarae mewn gig yn Saith Seren, Wrecsam gyda Morgan Elwy, Dafydd Hedd ac Y Newyddion.