Mae Twm Morys a Gwyneth Glyn wedi cydweithio ar eu sengl ddiweddaraf sydd allan ers dydd Gwener diwethaf, 19 Mai.
‘Cymru’n Un’ ydy enw’r trac newydd gan y ddeuawd sydd allan ar Recordiau Sain.
Canwyd y gân hon yng Ngŵyl Cyhoeddi Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd yn 2022. Anodd adeg hynny oedd dychmygu y gwelem Eisteddfod go iawn eto. Ond wedyn dyna Brifwyl Ceredigion!
Mae hiraeth yn fy nghalon
Am gaeau glas Tregaron,
Ond mi glywaf sŵn y don bach bêr
A dyrr yn Aberdaron…
Bydd lle’n Eifionydd a Gwlad Llŷn i bob rhyw enaid hoff cytûn!