Mae Tara Bandito wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf ers dydd Gwener diwethaf, 13 Ionawr.
‘Croeso i Gymru’ ydy enw’r trac diweddaraf gan Tara, ac mae’n ddilyniant i gyfres o senglau a ryddhawyd ganddi ar ddechrau 2022 ac yna’r trac ‘Woman’ a ddilynodd ym mis Tachwedd.
Mae’r sengl newydd hefyd yn flas pellach o sain y gantores amryddawn wrth iddi baratoi i ryddhau ei halbwm cyntaf ddiwedd mis Ionawr.
Rhyddheir y record hunan-deitlog ar label Recordiau Côsh ar 27 Ionawr.
Cymryd perchnogaeth
Mae’r albwm yn cynnwys teyrnged cerddorol i’r band Datblygu, baledi o alar am golled ei thad, ymchwilio i’w hunaniaeth, dathlu bod yn ferch a gobaith at Gymru newydd.
Cychwynnodd taith yr albwm gyda galwad ffôn rhwng Tara ac Yws Gwynedd, sylfaenydd Recordiau Côsh, yn ystod 2020.
Er ei bod wedi bod yn perfformio ers erioed, doedd Tara erioed wedi teimlo perchnogaeth dros yr hyn yr oedd hi wedi rhyddhau yn y gorffennol ac wedi mynd ati i ysgrifennu cerddi yn ystod y cyfnod clo, gwnaeth droi’n naturiol i mewn i ganeuon cyflawn yn barod i’w recordio.
Perswadiodd Yws hi i fynd at y cynhyrchydd profiadol Rich Roberts yn Stiwdio Ferlas, Penrhyndeudraeth, i wireddu eu syniadau penodol a dyrys o sut i ddod a’u dylanwadau eang i’r caneuon newydd – oedd yn cynnwys atseiniau cerddorol o’i chariad tuag at India, ei chariad tuag at arloesedd ac unigrywedd, yn ogystal â’i greddf i greu rhywbeth cwbl onest yn syth o’i chalon.
‘Croeso i Gymru’ – dathlu datblygiad
Mae’r gân ‘Croeso i Gymru’ yn un o’r diwethaf a gafodd ei hysgrifennu ar gyfer gorffen yr albwm ac yn dathlu’r datblygiad clir sydd wedi bod yn y wlad yn ddiweddar, yn benodol yn y sin gerddorol, wrth i amrywiaeth y pobl sy’n cynhyrchu cerddoriaeth Cymraeg ffrwydro yn ystod y blynyddoedd dwytha.
Yn hytrach na bod dynion gwyn dosbarth canol gyda gitâr acwstig yn dominyddu’r tonfeddi, mae’r cyfnod diweddar wedi gweld lleisiau newydd yn meddiannu’r sin; mwy o ferched nag erioed, mwy o leisiau LGBTQ+, ac mae’r tirlun cerddorol bellach i weld yn ffynnu gyda mwy o gerddoriaeth gan bobl ddu, brown, ac o gefndiroedd gwahanol.
Er fod y gân yn un gadarnhaol ar y cyfan, mae’r neges yno hefyd i ni gydnabod y ‘graith’ ac i beidio bod yn rhy fodlon.
Dogfen hunangofiannol person sy’n ceisio darganfod ei gwirionedd trwy ei holl lawenydd a’i anghysur yw’r albwm yma. Mae’r “Queen of spectrum extreme” yn datgelu ei henaid ac eisiau inni deimlo pob tamaid o’r daith honno gyda hi ar y ‘rollercoaster’ cerddorol hwn.
“Rwy’n gataclysm o bethau da a drwg, dyna fy nhaith ac felly dyna fy albwm. Disgwyliwch daith anwastad” meddai Tara Bandito.
Bydd Tara yn lansio yr albwm mewn noson arbennig yng Nghlwb Ifor Bach ar ‘Ddydd Miwsig Cymru’, 10 Chwefror, gyda llu o artistiaid eraill yn perfformio hefyd.
Mae cynllun hefyd i greu copïau feinyl o’r albwm a bydd rhain ar gael erbyn i Tara Bandito ddechrau ei thaith haf o gigs eleni.