Shamoniks x Sachasom x skylrk. 

Mae tri artist amgen wedi dod ynghyd i greu’r hyn maen nhw’n ei alw’n ‘anhrefn llwyr’ ar eu trac newydd. 

Y cynhyrchydd gweithgar Shamoniks, a’r ddau gerddor amgen Sachasom a skylrk. ydy’r tri sydd wedi dod ynghyd i ryddhau’r trac ‘Cyfarwydd’. 

Dyma’r ail waith i’r triawd gyd-weithio – bu iddynt hefyd ryddhau’r trac ‘Niwed’ yn gynharach yn y flwyddyn fel rhan o’r casgliad ‘Sbardun’ gan High Grade Grooves, sef prosiect y cynhyrchydd Endaf. 

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r tri artist wedi cadarnhau eu henwau fel rhai o gerddorion a chynhyrchwyr mwyaf blaenllaw Cymru. O senglau niferus Shamoniks, sy’n cynnwys ymddangosiadau gan Mali Haf ac Eädyth, i senglau arbrofol skylyrk. ac albwm cyntaf Sachasom ‘Yr Offerynnols Uffernoliadaus!’, mae’r tri artist wedi hen arfer creu synau arallfydol. 

Yn dilyn llwyddiant ffrwyth eu cyd-weithio ar ‘Sbardun’, mae’r tri wedi penderfynu dod at ei gilydd eto i greu ‘Cyfarwydd’. 

skylrk. ydy alter-ego cerddorol Hedydd Ioan o Ddyffryn Nantlle, ac fe ddaeth i amlygrwydd wrth gipi teitl Brwydr y Bandiau yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2021. 

“O’dd y profiad o greu’r trac gynta’ yna mor dda, o ni’n gwbod bod rhaid i ni weithio efo’n gilydd eto” meddai Hedydd.  

“O’dd na rywbeth am jyst cael dau gynhyrchydd yn gweithio yn yr un ‘stafall yn bownsio off ei gilydd, o ni’n gwbod fod o’n wbath sbesial.”

Prosiect cerddorol diweddaraf Izak Zjalič o Fachynlleth ydy Sachasom, ac ef hefyd oedd enillydd Brwydr y Bandiau yr Eisteddfod yn Nhregaron yn 2022

“Roedd ‘Cyfarwydd’ yn gydweithrediad adfywiol” eglura Izak.  

“Gwnes i dorri sampl bed crewyd gan Sam [Shamoniks] mewn i guriad, ac yna ei haenu efo synthesizers a llais prydferth skylrk. Mae’n rhoi naws o Clams Casino, ac rwy’n falch bod ni wedi gallu creu rhywbeth gwahanol i synau masnachol cerddoriaeth boblogaidd Gymraeg.”

Mae skylrk. a Sachasom hefyd wedi bod yn gweithio gyda’i gilydd yn ddiweddar ar brosiect newydd cydweithredol Sachasky, gan ryddhau’r sengl ‘Ru’n Fath’ fis Mai eleni.  

Yn gyferbyniad llwyr i ‘Niwed’ am ei fod yn llwyr ddibynnol ar y gytgan ailadroddus “dwi’n teimlo’n gyfarwydd, dwi’n teimlo’n gyfarwydd”, mae’r trac newydd yn ddwy funud a hanner o hyd yn unig.