Stiwdio 3 – enwau cyfarwydd yn ôl gyda band newydd

Mae dau gerddor profiadol wedi dychwelyd gyda phrosiect newydd, a sengl gyntaf sydd allan ers dydd Gwener 15 Medi. 

‘Cadw’n Agos’ a ‘Seren Wib’ ydy enw’r ddau drac sydd ar y sengl ddwbl. 

Stiwdio 3 ydy enw’r band newydd sy’n cynnwys y brodyr Liam a Scott Forde, fu’n rhan o’r grŵp roc trwm enwog Crys o Abertawe. Daeth Crys i amlygrwydd ddiwedd y 1970au, gan recordio dau albwm ar label Sain – ‘Rhyfelwr’ yn 1981 a ‘Tymor yr Heliwr’ yn 1982. 

Enillodd y ddau albwm wobr albwm y flwyddyn cylchgrawn Sgrech ac aeth y band ymlaen i berfformio’n helaeth ar hyd a lled Cymru a thu hwnt gan fod y band Cymraeg cyntaf i berfformio sesiwn ar Radio 1, ar raglen Friday Rock Show. 

Nawr mae’r ddau yn ôl gyda’u band newydd, a sengl ddwbl gyntaf sydd allan ar label Sain. 

Erbyn hyn, mae mab Scott, Kieran, wedi ymuno â’i dad a’i ewythr i greu band newydd gyda sŵn newydd, cyffrous. Liam sydd ar y gitâr a’r prif lais, Scott ar y bas a’r lleisiau cefndir, Kieran ar y drymiau ac mae Tim Hamill wedi ychwanegu gitâr flaen ar y ddau drac. Recordiwyd y traciau yn stiwdio Tim, Sonic One. 

Mae’r syniad o greu band newydd wedi bod ar y gweill gan y brodyr ers rhai blynyddoedd ac o’r diwedd, dyma wireddu breuddwyd drwy gael cyfle i ryddhau o dan enw newydd Stiwdio 3. 

Mae’r gerddoriaeth yn gyfuniad celfydd o roc a phop a ‘Cadw’n Agos’ yn gri am gymorth pan fo bywyd yn anodd tra bod ‘Seren Wib’ yn gân serch gyfoes. 

Y newyddion da pellach ydy bod addewid am ragor o gerddoriaeth ar y ffordd cyn diwedd 2023.