Sŵnamii ar Feinyl

Mae Sŵnami wedi cyhoeddi y byddan nhw’n rhyddhau fersiwn newydd o’u halbwm diweddaraf, ‘Sŵnamii’, ar ffurf record feinyl. 

Rhyddhawyd ‘Sŵnamii’, sef ail record hir y band o Feirionnydd, yn ddigidol nôl ym mis Rhagfyr 2022. Mae’r record yn ddilyniant i’w halbwm cyntaf hunan-deitlog a ryddhawyd yn 2015. 

Mae’r ail albwm yn un cysyniadol sy’n cyflwyno gwesty Sŵnamii, o burdan neon lle mae’r ystafelloedd yn cynrychioli galar, gorbryder, a dihangfa ieuenctid trwy gyfryngau ‘dream-pop’ ysgafn ac indi dwys, llawn egni. 

Ym mhob adran o’r albwm, fel pob ystafell mewn gwesty, adroddir naratif gwahanol gan y band sy’n myfyrio ar eu gorffennol, eu presennol, a’u dyfodol, gan ddogfennu’r cyflwr cyson o newid a fu o’u cwmpas yn ystod y blynyddoedd diwethaf. 

Platfform haeddiannol

Roedd ‘Sŵnamii’ ar restr fer gwobr Record Hir Orau Gwobrau’r Selar 2022, ac fe gipiodd y clawr, sydd wedi’i greu gan Gruffydd Sion Ywain, y wobr am y Gwaith Celf Gorau. Mae’n briodol felly bod y gwaith celf hwnnw’n cael ei arddangos ar y platfform haeddiannol sef record feinyl. 

Dyma’r tro cyntaf i Sŵnami ryddhau cynnyrch ar ffurf feinyl, a nifer cyfyngedig o gopïau fydd ar gael i’w prynu – mae modd rhag archebu copi nawr ar safle Bandcamp y grŵp

Bydd copïau o’r record hefyd ar gael erbyn taith lansio fer albwm sy’n digwydd ym mis Ebrill gyda gigs yng Nghaernarfon, Caerdydd a Llundain. 

Mae Sŵnami wedi cyhoeddi manylion yr artistiaid fydd yn eu cefnogi yn y gigs yma bellach hefyd. Bydd Bryn Morgan ac Alffa yn ymuno â nhw yn y Galeri, Caernarfon ar 5 Ebrill, Catty a Wrkhouse yn cefnogi yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd ar 21 Ebrill a Wrkhouse a Malan yn ymuno ar gyfer y gig yn y Victoria Dalston, Llundain ar 22 Ebrill.