SYBS yn rhyddhau ‘Gwacter’

Mae’r band pync o Gaerdydd, SYBS, yn ôl gyda sengl newydd sydd allan ers dydd Mercher 16 Tachwedd. 

‘Gwacter’ ydy enw’r  sengl newydd, a’r trac cyntaf i gael ei dynnu o albwm cyntaf hir ddisgwyliedig y band. 

“Fe gafodd ‘Gwacter’ ei ysgrifennu tra o’n i’n byw yn Llundain ac yn gorfod teithio nôl a ’mlaen llawer o fanna a Chaerdydd” eglura Osian, prif-leisydd SYBS. 

“Mae’r geiriau yn bendant wedi eu hysbrydoli gan y profiad o weld nifer o venues cyfarwydd Caerdydd yn cau a chael eu dymchwel, ac yna mynd yn ôl i Lundain a oedd i weld yn newid a morffio drwy’r amser ar rât arbennig o gyflym. Roedd hyn yn amlwg yn fy mhoeni ar y pryd, ac yn anffodus dydy’r sefyllfa heb newid ryw lawer erbyn heddiw.” 

“O ran y gerddoriaeth, dwi’n cofio ei ’sgwennu yn hwyr iawn yn y nos ar ôl gwylio’r ffilm ‘Lost in Translation’ am y tro cyntaf. Dwi’n credu cafodd hyn effaith mawr ar awyrgylch y gân, sydd yn marcio cychwyn i ail hanner mwy tywyll yr albwm.”

SYBS ydy Osian Llŷr, Herbie Powell, Dafydd Adams a Zach Headon ac maen nhw’n cael eu disgrifio fel band pync-indî-slacyr ffrwydrol o’r brifddinas. Ffrwydrodd y grŵp i sylw’r genedl wrth gipio teitl Brwydr y Bandiau Maes B a Radio Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, 2018.

Mae ‘Gwacter’ ar gael ar y llwyfannau digidol arferol drwy label Recordiau Libertino.