Sylwebaeth wleidyddol sengl newydd Kim Hon

Mae’r band roc amgen o Arfon, Kim Hon, wedi ryddhau eu sengl ddiweddaraf ar label Recordiau Côsh. 

‘Mr English’ ydy enw’r trac newydd ac fel mae’r enw’n awgrymu, mae neges wleidyddol i’w trac diweddaraf.

Mae Kim Hon, yn fand sy’n aml yn gwthio ffiniau ac sy’n cael eu canmol am eu sain trydanol.

Mae’r gân yn cynnig mymryn o sylwebaeth wleidyddol ac mae’r trac pryfoclyd yma’n ymchwilio’r pwnc o unigolion yn prynu tai yng Nghymru i’w ddefnyddio fel tai haf. 

Yn ôl eu label, mae ‘Mr English’ yn fynegiant grymus o allu Kim Hon i asio ymwybyddiaeth gymdeithasol â’u harddull cerddorol nodedig. Paratowch i gael eich swyno gan eu halawon heintus, geiriau meddylgar, a’u hofferyniaeth ddeinamig.

Cadwch lygad hefyd am albwm Kim Hon fydd yn cael ei ryddhau’n fuan, albwm sy’n addo dangos eu twf parhaus fel grym dylanwadol yn y sin gerddoriaeth gyfoes.