Mae Sywel Nyw, sef prosiect unigol Lewys Wyn o’r Eira, yn ôl gyda’i sengl ddiweddaraf sydd allan nawr ar label Lwcus T.
Mae Sywel Nyw yn hen gyfarwydd â chydweithio gydag artistiaid eraill wrth gwrs. Roedd ei albwm cyntaf, ‘Deuddeg’, a ryddhawyd yn Ionawr 2022, yn ffrwyth llafur deuddeg o senglau misol a ryddhawyd yn 2021 gyda phartner cerddorol gwahanol yn cyfrannu at bob un.
Nid yw’n syndod felly ei fod yn troi at yr un drefn gyda’r sengl ddiweddaraf, ac yn cydweithio gyda cherddorion ffresh sef Gwern ap Gwyn ac Alys Hardy.
‘Lleidr Amser’ ydy enw’r trac newydd ac mae’n sengl ddwbl o fath gyda dwy fersiwn o’r gân gyda ‘Lleidr Amser II’ yn fersiwn amgen o’r prif drac.
Cyfeillgarwch cerddorol
Dywed Lewys fod y gân yn adlewyrchu’r berthynas hirdymor rhyngddo ef a Gwern, fydd yn adnabyddus i rai fel aelod o’r band Casset.
“Mae’r trac yn adlewyrchu cyfeillgarwch cerddorol, oriau o jamio a hyd yn oed mwy o falu cachu” eglura Lewys.
“Mae Gwern yn ffrind, ac yn rhannu’r un tast cerddorol, ac mae’n grêt cael ei acen ganolbarth trwchus fel stamp ar y trac.”
Gwern aiff ymlaen i sôn am y stori sydd yng ngeiriau’r gân.
“Esblygodd ‘Lleidr Amser’ i fod yn ‘driving bassline’ sy’n ennyn ffantasi o fod yn ymchwilydd preifat yn y 50au” meddai Gwern.
“Cafodd y geirie’ ei ysgrifennu wrth ystyried y weledigaeth honno, o fod ar goll mewn dinas newydd a theimlo ansicrwydd ynglŷn â phwy wyt ti a be’n union ti’n gwneud.”
Llais Alys Hardy
Yn ymddangos ar y trac hefyd mae llais esmwyth newydd Alys Hardy, artist o Gaerdydd sydd bellach yn byw ym Machynlleth.
Mae’r cyfuniad o bersonoliaeth Alys a Gwern, yn ogystal â synau a rhythmau byrlymus y gân, wedi creu campwaith amrwd sy’n nodweddiadol o un o senglau Sywel Nyw.