Ar ôl llwyddiant ei brosiect uchelgeisiol, ‘Deuddeg’, mae Sywel Nyw yn ôl gyda sengl ddiweddaraf.
‘Disgo Newydd’ ydy enw’r cynnig diweddaraf gan brosiect unigol Lewys Wyn o’r band Yr Eira.
Roedd ‘Deuddeg’ yn brosiect uchelgeisiol i ryddhau un sengl bob mis yn ystod 2021, gan gydweithio gyda phartner cerddorol gwahanol ar bob trac. Ryddhawyd y cyfan ar ffurf albwm yn Ionawr 2022.
Mae ‘Disgo Newydd’ yn ei weld yn parhau gydag ethos cydweithredol y prosiect, ond y tro yma mae’n pefrio synau trawsatlantig.
Mae ‘Disgo Newydd’ yn drac sy’n adlewyrchu cyfeillgarwch rhyngwladol, wrth i Sywel Nyw samplo sgwrs dros WhatsApp gyda Meirion Griffiths, o Drelew, Patagonia. Mae Meirion yn frodor o’r Ariannin, ac yn rhugl yn y Gymraeg a’r Sbaeneg.
Yn llawn curiadau hafaidd, mae’r trac dawns yn pefrio synau i symud eich sodlau a chodi eich calonnau tra’n gwlychu eich tafodau dros Haf 2023!
Mae fideo yn cyd-fynd gyda’r sengl, wedi’i greu gan y fideograffydd Lleucu Elisa.
Bydd yr unig gyfle i wylio Sywel Nyw yn perfformio’n fyw haf yma yn Tafwyl ym mis Gorffennaf.
Dyma’r fid: