Tad – rhyddhau sengl gyntaf yr artist dirgel

Mae artist dirgel newydd wedi ymddangos gyda sengl newydd ar label Recordiau I KA CHING. 

‘Tai Haf’ ydy enw sengl gyntaf yr artist Tad ac mae allan ers dydd Gwener diwethaf, 2 Mehefin.  

Mae Tad yn gyfansoddwr Cymreig, sy’n darlledu negeseuon gwleidyddol a synhwyrau pop o’i byncer niwclear dwfn yn y Cymoedd. 

Mae ei sengl gyntaf, ‘Tai Haf’, yn olwg hiraethus ar ei blentyndod yng nghefn gwlad Cymru.

Gydag offerynnau lliwgar a synau symudliw, mae’n gobeithio gallu’n cludo ni’n ôl i amser symlach, pan oedd problemau cymhleth yn galw am atebion syml.

Roedd cyfle cyntaf i glywed ‘Tai Haf’ yn cael ei chwarae ar y radio ar raglen Georgia Ruth wythnos diwethaf ar BBC Radio Cymru, ac mae’r sengl bellach ar gael yn ddigidol ar y llwyfannau arferol.

Dyma ‘Tai Haf’: