Mae trefnwyr Gŵyl Tafwyl yng Nghaerdydd wedi rhyddhau’r manylion sylfaenol ar gyfer y digwyddiad eleni.
Datgelwyd mai penwythnos 15-16 Gorffennaf fydd dyddiadau’r ŵyl eleni, ac mai Parc Bute fydd y lleoliad.
Gan amlaf mae Tafwyl wedi’i gynnal yng Nghastell Caerdydd, ond mae Parc Bute wedi bod yn gartref i’r ŵyl yn y gorffennol hefyd.