Taith Adwaith i’r Iseldiroedd

Mae’r band o Sir Gâr, Adwaith, wedi cyhoeddi manylion cyfres o gigs y byddan nhw’n cynnal yn yr Iseldiroedd yn y flwyddyn newydd. 

Bydd Adwaith yn perfformio mewn pedwar o gigs ym mis Chwefror 2024, a hynny mewn lleoliadau yn Den Haag, Rotterdam, Gronignen a Nijmegen. 

Mae triawd ôl-bync wedi ehangu i fod yn bedwarawd yn ddiweddar wrth i’r gantores Gillie ymuno ar y gitâr. 

Maen nhw unwaith eto wedi mynd o nerth i nerth yn ystod 2023, gan gigio’n rheolaidd dros yr haf, gan gynnwys perfformiad cofiadwy yng ngŵyl Glastonbury. 

Mae’r band hefyd yn gyfarwydd â gigio dramor, ac nid hwn fydd ymweliad cyntaf Adwaith â’r Iseldiroedd – yn wir, bu iddynt berfformio yn Amsterdam eleni, nôl ym mis Ionawr. 

Daeth i’r amlwg wythnos yma hefyd y bydd cyfle i weld Adwaith yn perfformio dros y môr dros yr hydref mewn gig yn Nantes i gyd-fynd â Chwpan Rygbi’r Byd yn Ffrainc. Bydd Sage Todz ymysg yr artistiaid eraill sy’n perfformio yn y digwyddiad sy’n cael ei drefnu gan Glwb Ifor Bach ar 7 Hydref yn lleoliad Stereolux yn Nantes, yn dilyn gêm tîm Cymru’n erbyn Georgia yn y ddinas. Mae tocynnau’r gig hwn ar gael am ddim nawr. 

7 Chwefror 2024 – Paardcafé, Den Haag

8 Chwefror 2024 – Rotown, V11, Rotterdam

9 Chwefror 2024 – Vera, Groningen

10 Chwefror 2024 – Merleyn, Nijmegen