Mae’r triawd gwerin The Trials of Cato yn dechrau eu taith Hydref fis nesaf gyda gigs ar hyd a lled Prydain yn cynnwys un yng Nghymru yn Pontio, Bangor ar ddydd Gwener, Hydref 13.
Fe gafodd y band hwyl arni’n ddiweddar gyda gig yn Nhŷ Gwerin yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan, ac yna ychydig ddyddiau wedyn mi oeddent yn perfformio ambell waith yng Ngŵyl Rhyng-Geltaidd Lorient.
Mae hi wedi bod yn haf prysur iawn iddynt gyda pherfformiadau yng Nghanada, America, Gwlad Belg, Ffrainc a’r Almaen.
Yn gynharach yn y gwanwyn roeddent hefyd yn ran o arlwy o berfformwyr Cymraeg a drefnwyd gan Focus Wales ar gyfer gŵyl SXSW yn Austin, Texas.
Yn ogystal â’r gig ym Mangor, mae’r gyfres o gigs fis Hydref yn cynnwys ymweliadau â Lerpwl, Nottingham a Glasgow.
The Trials of Cato ydy Tomos Williams, Robin Jones a Polly Bolton.
Wedi’u ffurfio yn Beirut, Lebanon yn wreiddiol, dychwelodd y band – sy’n canu yn y Gymraeg a’r Saesneg – i Brydain yn 2016 ac ers hynny maent wedi bod yn perfformio’n ddiflino ledled y wlad.
Enillodd eu halbwm cyntaf, ‘Hide and Hair’ y wobr am yr Albwm Gorau yng Ngwobrau Gwerin 2019 BBC Radio 2. Rhyddhawyd ail albwm y band, ‘Gog Magog’, ym mis Tachwedd 2022
6 Hydref – Farnham Maltings
7 Hydref – Gŵyl Werin a Rŵts Scunthorpe
12 Hydref – Telford’s Warehouse, Caer
13 Hydref – Pontio, Bangor
15 Hydref – Clwb Cymdeithasol Bodega, Nottingham
17 Hydref – Philharmonic, Lerpwl
18 Hydref – Canolfan Celfyddydau Brewery, Kendal
19 Hydref – The Cluny, Newcastle Upon-Tyne
21 Hydref – The Hug and Pint, Glasgow
22 Hydref – The Greystones, Sheffield
26 Hydref – Hertford Corn Exchange, Hebnffordd
27 Hydref – The Vestry Hall, Cranbrook