Tara Bandito yn rhyddhau ‘Unicorn’ fel sengl

Mae Tara Bandito wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf ar label Recordiau Côsh.

‘Unicorn’ ydy enw’r trac diweddaraf gan Tara sydd allan ers dydd Iau diwethaf, 1 Mehefin.

Ers rhyddhau ei halbwm cyntaf ym mis Ionawr eleni, mae ‘Unicorn’ wedi datblygu’n anthem anfarwol ac yn cau setiau byw anhygoel Tara Bandito. 

Rhyddhawyd y trac ar 1 Mehefin i gyd-fynd â mis balchder, ac mae ‘Unicorn’ yn gân am dderbyn chi’ch hun a chofio fod y ffordd mae eraill yn ein gweld ni’n eilradd i’r ffordd ’da ni’n teimlo am ein hunain. 

Bydd rhai craff sy’n dilyn Tara ar y rhwydweithiau cymdeithasol, wedi gweld fod fideo i’r gân ar y ffordd hefyd, ac roedd modd cael cipolwg tu ôl i’r llen ar y broses o greu’r fideo ar broffil Instagram Big Love festival yn ddiweddar. 

Bydd Tara’n parhau i ledu neges bwerus y gân mewn nifer o wyliau dros yr haf, gan ddechrau nos Sadwrn diwethaf yng ngŵyl Triban Eisteddfod yr Urdd yn Llanymddyfri wrth iddi gefnogi neb llai na Dafydd Iwan.

Dyma ‘Unicorn’ (RHYBYDD IAITH GREF):