Mae Tara Bandito wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf ers dydd Gwener diwethaf, 22 Medi.
Fersiwn Gymraeg o’i sengl flaenorol ‘Woman’, ydy ‘Dynes ac mae allan ar label Recordiau Côsh.
Roedd dyddiad rhyddhau’r fersiwn newydd o’r gân yn arwyddocaol gan fod tîm pêl-droed merched Cymru yn cychwyn eu hymgyrch Cynghrair y Cenhedloedd yn erbyn Gwlad yr Iâ ar y diwrnod hwnnw, ac mae’r sengl yn ddathliad o hynny.
Mae hon wedi bod yn flwyddyn enfawr i Tara Bandito, wedi iddi ryddhau ei halbwm cyntaf ym mis Ionawr a hefyd ymddangos mewn llu o wyliau cerddorol dros yr haf.
Roedd y gân ‘Woman’ wedi’i rhyddhau’n wreiddiol fel sengl Saesneg ar ddiwedd 2022, a gan ei bod hi’n un o uchafbwyntiau set byw’r artist, penderfynodd Tara ei bod hi’n bwysig i’r gân fodoli yn y Gymraeg hefyd.
Yn dilyn llwyddiant tîm pêl-droed merched Cymru dros y blynyddoedd diwethaf, a’u gwaith diddiwedd yn ysbrydoli cenhedlaeth newydd o ferched ifanc, roedd hi’n teimlo’n berffaith i ddathlu’r garfan gyda chân cyn i’w hymgyrch ddiweddaraf ddechrau ddydd Gwener.