Mae’r artist ifanc o Fôn, Tesni Owen Hughes, wedi rhyddhau ei sengl newydd, ‘Cwestiynau’, ar label newydd INOIS.
A hithau wedi bod yn mireinio’i chrefft trwy gigio’n rheolaidd dros y cwpl o flynyddoedd diwethaf, ‘Cwestiynau’ ydy trydedd sengl swyddogol Tesni ac mae’n gobeithio rhyddhau mwy o gerddoriaeth i bobl ei fwynhau.
Mae Tesni yn gerddor ifanc o Ynys Môn sy’n ysgrifennu caneuon gwreiddiol ac wedi perfformio ledled Cymru, gan gynnwys yng Nghaffi Maes B, Gŵyl Triban ac mewn tipyn o wyliau a thafarndai yng Ngogledd Cymru.
Mae Tesni yn creu caneuon pop/rock/indie sy’n cymryd dylanwadau gan fandiau fel Breichiau Hir, Mellt ac Oasis.
“Dwi rili excited i gallu rhyddhau y gân yma gan fod dwi heb rhyddhau ers amsar ŵan. Dwi byth di rhyddhau cân mor serious a hyn” meddai Tesni am y sengl newydd.
Rhyddhawyd ‘Cwestiynau’ ddydd Gwener diwethaf ar Ddydd Miwsig Cymru 2023 ac roedd cyfle i weld Tesni yn chwarae yn Saith Seren, Wrecsam yr un diwrnod yn cefnogi, Morgan Elwy, Dafydd Hedd ac Y Newyddion.
Roedd Tesni’n un o’r artistiaid â ddewiswyd gan rai i gadw golwg arnynt yn 2023 gan Gruffudd ab Owain yn ei ddarn arbennig ar ddiwedd 2022.