Tlws y Werin, Gwobrau Gwerin Cymru

Fel rhan o Wobrau Gwerin Cymru eleni, mae cyfle arbennig i unrhyw gyfansoddwr ennill gwobr newydd ‘Tlws y Werin’.

Cynhelir Gwobrau Gwerin Cymru eleni ar 20 Ebrill a dyma’r tro cyntaf iddynt gael eu cynnal ers y pandemig. Mae ffurflen enwebiadau eisoes wedi bod yn agored i’r cyhoedd allu cynnig enwau ar gyfer y mwyafrif o’r gwobrau, a nawr bydd panel o feirniaid yn dewis yr enillwyr. 

Mae’r gystadleuaeth newydd yn agored  i unrhyw un sy’n ysgrifennu alawon gwerin. 

Gwobrwyir y wobr agored am y jig 48 bar gorau yn null gwerin Cymru, a hynny ym marn y beirniaid. 

Mae Tlws y Werin yn agored i gyfansoddwyr o unrhyw oed, ac mae wedi’i hanelu’n arbennig at chwaraewyr o sesiynau neu glybiau gwerin, neu efallai rywun sy’n chwarae gyda grŵp dawns gwerin. 

Dylai unrhyw un sydd am gystadlu anfon eu halaw fel dotiau, fideo neu MP3 i trac@trac-cymru.org i gael ei anfon ymlaen at y panel beirniadu. Bydd yr alaw yn mynd i’r panel beirniadu yn ddienw, felly bydd angen ffugenw gyda’r alaw. ⁠

Datgelir yr enillydd yn noson Gwobrau Gwerin Cymru ar 20 Ebrill, a bydd y digwyddiad yn cael ei ddarlledu’n ddiweddarach ar BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru. 

Y dyddiad cau ar gyfer y gystadleuaeth ydy 29 Mawrth.