Mae artist electronig newydd o’r enw Tokomololo wedi ymddangos ar y sin gyda’i sengl gyntaf allan wythnos yma.
‘Gafael yn Sownd’ ydy enw’r trac newydd gan Tokomololo sydd allan ar label HOSC .
Wedi ei argymell i HOSC gan y cynhyrchydd anhygoel Ifan Dafydd, mae cerddoriaeth Tokomololo yn dal rhywun yn syth, gyda churiadau glitchy, samplau unigryw, a melodïau sy’n teimlo’n gyfarwydd ond yn eistedd o fewn tirwedd sonig flaengar.
Prosiect y cerddor Meilir Tee Evans ydi Tokomololo ac mae llond llaw o ganeuon wedi eu recordio ac yn barod i fynd gan yr artist.
Mae HOSC bellach wedi rhyddhau cerddoriaeth electroneg gan dri artist newydd sbon yn cynnwys M-Digidol a Keyala, gyda mwy o draciau i ddod yn y flwyddyn newydd meddai’r label.