Mae artist annibynnol o ardal Caernarfon, Tomos Gibson, wedi rhyddhau ei sengl newydd ers dydd Gwener diwethaf, 22 Rhagfyr.
Daw’r cerddor o bentref Bethel, ac enw ei sengl ddiweddaraf ydy ‘Cleisiau’.
Er bod Tomos yn enw newydd i nifer, ‘Cleisiau’ ydy ei ail sengl gan ddilyn y trac ‘Llwyfan y ‘Steddfod’ a ryddhawyd yn gynharach eleni. Cafwyd ymateb da i’r trac hwnnw ac fe’i ddewiswyd fel Trac Yr Wythnos gan BBC Radio Cymru.
Myfyriwr yng Ngholeg Menai ym Mangor ydy Tomos, lle mae’n astudio Cerddoriaeth Technoleg. Mae’r cerddor yn cymryd mantais o’r adnoddau sydd wrth law iddo yn y fan honno, gan ysgrifennu a chynhyrchu popeth ei hun yn stiwdios y coleg.
Er ei fod yn enw newydd, mae Tomos eisoes wedi cael y cyfle i gefnogi bandiau fel Fleur de Lys a Bwncath ar lwyfan byw ynghyn â chael cyfle i berfformio ar Lwyfan y Maes yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
“Dwi’n angerddol am gyfleu storiâu drwy ganeuon, yn debyg i fy arwres, Taylor Swift” eglura Tomos.
“Ar gyfer y trac yma, o’n i eisiau cynhyrchu sŵn oedd yn cyferbynnu gyda [y trac] ‘Llwyfan Y ‘Steddfod’.
“Felly, penderfynais i ddefnyddio offerynnau digidol ac effeithiau llais i greu cynhyrchiad Pop, tywyll. O ran ysgrifennu’r gân, o’n i eisiau cyfleu pa mor gaethiwus yw bod mewn cariad, yn enwedig cariad sy’n ddrwg.”