‘Tôn Gron’ Lloyd Steele

Mae Lloyd Steele yn ôl gyda sengl newydd sydd allan ers dydd Gwener diwethaf, 9 Mehefin. 

‘Tôn Gron’ ydy enw’r trac newydd sydd allan ar label Recordiau Côsh, ac fel mae’r enw’n awgrymu mae’r gân yn siŵr o fynd rownd a rownd yn eich pen. 

Mae’r artist o ardal Gaernarfon, sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd, wedi rhyddhau dwy sengl flaenorol ar Côsh, gyda’r ddiwethaf ‘Digon Da’, yn amlygu Lloyd fel cyfansoddwr gonest a theimladwy. Bu’r sengl honno yn drac yr wythnos ar BBC Radio Cymru ac fe gafodd Lloyd y cyfle hefyd i chwarae’r gân yn fyw ar raglen ‘Heno’ ar S4C yn ddiweddar.

“Mae’r gân yma’n seiliedig ar drïo dod o hyd i’r petha’ bach da mewn bywyd ac i’w gwerthfawrogi nhw” eglura Lloyd, sydd hefyd yn gyfarwydd fel aelod o fand Y Reu.  

“Wrth gyfeirio’n ôl at y cyfnod clo lle’r oedd pob un dydd yn teimlo’r un peth, roedd o’n bwysig gadael dy hun i fwynhau er gwaetha’r cyfnod ansicr.”

Bydd Lloyd yn parhau i ysgrifennu a recordio yn ystod y misoedd nesaf ac mae’r artist wrthi hefyd yn adeiladu band i berfformio’r caneuon newydd yn fyw. 

Dyma ‘Tôn Gron’: