Adwaith ydy’r band Cymraeg diweddaraf i weld un o’u caneuon yn cael ei chwarae dros filiwn o weithiau ar lwyfan Spotify.
Mae’r gân ‘Fel i Fod’, a ryddhawyd yn wreiddiol fel sengl ganddynt yn Chwefror 2018 cyn ymddangos ar eu halbwm cyntaf, ‘Melyn’, bellach wedi croesi’r ffigwr o gael ei ffrydio miliwn o weithiau ar y prif wasanaeth ffrydio cerddoriaeth rhyngwladol.
“Mae mor neis i weld bod ‘Fel i Fod’ wedi cyrraedd 1m o streams ar Spotify!” meddai Adwaith wrth Y Selar.
“Lysh i wybod bod y gân dal yn cysylltu a pobl dros y byd i gyd.”
Rhestr ddethol
Fyth ers i ‘Gwenwyn’ gan Alffa gael ei chwarae dros filiwn o weithiau ar Spotify yn Rhagfyr 2018, mae’r ffigwr hwnnw wedi cael ei weld fel carreg filltir bwysig i gerddoriaeth Gymraeg gyfoes. Mae dau drac arall gan Alffa, sef ‘Pla’ a ‘Full Moon Vulture’, wedi croesi’r ffigwr erbyn hyn, a ‘Gwenwyn’ wedi’i ffrydio dros 3.5 miliwn o weithiau ar y platfform.
Ychydig iawn o draciau Cymraeg eraill sydd wedi croesi’r miliwn ffrwd hyd yn hyn – un ohonynt ydy ‘Yma o Hyd’ gan Dafydd Iwan, sydd efallai ddim yn syndod o ystyried poblogrwydd y gân dros y flwyddyn ddiwethaf diolch i’w chysylltiad â thîm pêl-droed Cymru.
Mae cân ddwyieithog Gorkys Zygotic Mynci, ‘Patio Song’, hefyd wedi’i chwarae 3.4 miliwn o weithiau ar Spotify.
Mae ’na un gân annisgwyl arall ar y rhestr sef ‘Dan y Dŵr’ gan y gantores enwog o Iwerddon, Enya. Ymddangosodd y trac ar albwm The Celts a ryddhawyd gan Enya ym 1987.
Carreg filltir arall
Mae’r newyddion yn nodi carreg filltir arwyddocaol arall i Adwaith sydd wedi mynd o nerth i nerth dros y blynyddoedd diwethaf.
Roedd 2022 yn flwyddyn fawr iddynt wrth ryddhau eu hail albwm, Bato Mato, ym mis Gorffennaf a gigio’n rheolaidd ledled Cymru a thu hwnt.
Cyhoeddwyd ym mis Hydref mai Bato Mato oedd enillydd Y Wobr Gerddoriaeth Gymreig llynedd – gan efelychu camp eu halbwm cyntaf, ‘Melyn’. Nhw ydy’r cyntaf i ennill y wobr honno ddwywaith.
Mae’r albwm hefyd wedi cyrraedd rhestr fer categori ‘Record Hir Orau’ Gwobrau’r Selar 2022.