Trac sain ffilm gan Gruff Rhys 

Mae Gruff Rhys wedi rhyddhau ei albwm diweddaraf sy’n drac sain ar gyfer ffilm newydd ‘The Almond and the Seahorse’.

Ffilm gan Celyn Jones ydy ‘The Almond and the Seahorse’ a gafodd ei ddangosiad cyntaf yng Ngŵyl Ffilm Zurich ym mis Medi 2022.

Mae’r albwm newydd gan Gruff allan ar label Rough Trade ac yn gymysgedd o “ganeuon pop, sgôr ffilm a darnau gitâr ac electroneg haniaethol” yn ôl y cerddor.

Mae’r albwm ar gael yn ddigidol ond hefyd ar ffurf record feinyl dwbl.