Mae The Gentle Good wedi rhyddhau ei sengl newydd sy’n flas pellach o’i albwm nesaf.
‘Nid Wyf yn Llon’ ydy enw’r trac newydd sydd allan ar label Bubblewrap, a dyma ydy’r blas diweddaraf o’i albwm nesaf fydd yn yn cael ei ryddhau dan yr enw Galargan.
Casgliad cynnil o ganeuon gwerin Gymreig sydd ar yr albwm newydd, sydd wedi’u perfformio gyda’r gitâr acwstig, y llais a’r soddgrwth. Trefnwyd y caneuon yn ystod y pandemig ac maent wedi eu trwytho gan y tristwch a ddeilliodd o’r cyfnod unig hwnnw.
Mae’r gân hon yn cynnig teitl amgen i’r albwm cyfan ac yn adlewyrchu prif themâu’r casgliad hefyd. Casglwyd hi oddi wrth ‘canu meddwyn’ gan warden yng ngharchar Dolgellau yn ôl y llawysgrif yng nghasgliad Merêd a Phyllis.
Mae’n sôn am iselder a chysuron dros dro, sydd byth yn ‘treiddio’r gwaelod isaf’. Cân am gaethiwed o wefusau carcharor yw hon, a thema addas i’r pandemig yn troelli ar yr eiriau llwm a’r alaw leddf:
Pan yr haul belydra
Brig y don oreura
Nid yw byth er maint ei glod
Yn treiddio’r gwaelod isa’
Dyma’r drydedd sengl o’r albwm gan ddilyn ‘Pan own i ar Foreddydd’ a ryddhawyd fis Ebrill eleni, ac yna ‘Mae’r Ddaear yn Glasu’ a ryddhawyd fis Mehefin.
Bydd Galargan allan ar Recordiau Bubblewrap fis Medi 2023, ac mae’r sengl newydd allan nawr ar y llwyfannau digidol arferol.