Vlog SUNS Europe HMS Morris

Roedd HMS Morris ymysg yr artistiaid oedd yn perfformio yng ngŵyl SUNS Europe yn Udine, Yr Eidal ym mis Tachwedd a nawr mae modd profi rhywfaint o’u profiad ar ffurf vlog ar sianel Lŵp, S4C.

Gŵyl celfyddydau perfformio Ewropeaidd mewn ieithoedd lleiafrifol ydy SUNS Europe.

Dechreuodd yr ŵyl yn 2009 fel cystadleuaeth gerddoriaeth ar gyfer cymunedau lleiafrifol yn Ewrop, ac mae bellach wedi datblygu i fod yn fan cyfarfod a chyfnewid rhwng artistiaid o grwpiau ieithoedd lleiafrifol yn Ewrop.

Mae sawl artist Cymraeg wedi perfformio yn yr ŵyl dros y blynyddoedd diwethaf gan gynnwys Yr Ods,  Adwaith, a Gruff Rhys. Mae modd gwylio vlog arbennig HMS Morris ar sianel YouTube Lŵp nawr, ynghyd â pherfformiad llawn o’u cân boblogaidd, ‘Myfyrwyr Rhyngwladol’.