Mae’r Welsh Whisperer yn ôl gyda sengl newydd sydd allan ar ei label ei hun, Recordiau Hambon, ers 27 Ionawr.
Ar ôl cyfnod cymharol dawel, a saib o’r stiwdio, mae’r Welsh Whisperer yn dychwelyd gyda chân sy’n dathlu’r byd y mae wedi bod yn rhan ohono ers 8 blynedd bellach, sef y byd canu gwlad yng Nghymru.
‘Caneuon Canu Gwlad’ ydy enw’r sengl ddiweddaraf gan y gŵr Gwmfelin Mynach ac mae’r gân yn talu teyrnged i’r cynulleidfaoedd mae wedi ymweld â hwy dros y blynyddoedd.
“Mae ‘Caneuon Canu Gwlad’ yn ddathliad o’r nosweithiau unigryw rwy’n mwynhau ar draws y wlad, weithiau yn fach ac weithiau yn fawr ond pob tro yn bleser”, meddai’r canwr o Sir Gâr.
Recordiwyd y sengl ddiweddaraf yn Nhrefdraeth, Sir Benfro a Llandwrog, Gwynedd gyda chyfraniadau gwerthfawr o Athboy yn swydd Meath, Iwerddon gan Kane O’Rourke sy’n chwarae a recordio gydag un o sêr fwyaf canu gwlad Iwerddon, Derek Ryan.