Wedi egwyl fach, mae’r band o Gaerdydd, Wigwam, wedi rhyddhau eu sengl newydd o’r enw ‘Problemau Pesimistaidd’ .
Mae pedair blynedd wedi pasio ers rhyddhau sengl ddiwethaf Wigwam, sef ‘Rhyddid’. Roedd honno’n ddilyniant i albwm cyntaf y band, ‘Coelcerth’, a ryddhawyd yn Awst 2018 ac er bod hen sain Wigwan dal i’w glywed, maen nhw hefyd wedi datblygu eu sŵn dros y blynyddoedd diwethaf.
Mae ‘Problemau Pesimistaidd’ yn ffrwydrad o gân sy’n plethu sŵn cyflym indie ‘Rhyddid’ gydag haenau o jangle a power-pop i greu sain ffres i’r band.
Mae’r band o Gaerdydd yn talu teyrnged i optimistiaeth ar y sengl, wrth alw am hyder gan eu cenhedlaeth – “Daw ein dydd / Ond mae angen ffydd”. Heb wastraffu eiliad o’i hyd byr, mae’r gân yn cael ei tharfu gan breakdown 7/8 yn ei chanol sy’n adlewyrchu naws aflonyddus y geiriau.
Daw ysbrydoliaeth sain newydd Wigwam gan fandiau cyfredol fel Alvvays a The Beths, yn ogystal â chewri hŷn fel R.E.M, Teenage Fanclub a’r Cyrff. Recordiwyd y sengl yn stiwdio JigCal gyda’u cydweithredwr hir-dymor Mei Gwynedd.
Bydd ‘Problemau Pesimistaidd’ yn sbardun i gyfnod newydd i’r band, gydag EP newydd ar y gorwel mae’n debyg.
Mae Wigwam hefyd wrthi’n cadarnhau gigs am y misoedd nesaf ac yn croesawu unrhyw ymholiadau.