Mae’r prosiect cerddorol cyffrous o Bontypridd, Y Dail, yn ôl gyda sengl newydd.
‘Clancy’ ydy enw’r sengl ddiweddaraf sydd allan ar label annibynnol y band.
Prosiect cerddorol Huw Griffiths o Bontypridd yw Y Dail. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae’r band wedi rhyddhau llond llaw o senglau gan gynnwys ‘O’n i’n Meddwl Bod Ti’n Mynd i Fod Yn Wahanol’, ‘You Don’t Have To Be Blue Forever’ a’u trac diweddaraf ‘Whizz Kids’, sydd wedi derbyn cefnogaeth gan Marc Riley ar BBC Radio 6 Music yn ogystal â’i chynnwys ar restr chwarae ‘Sound System’ label Domino.
Bydd ‘Clancy’ ar gael yn ddigidol yn ar yr holl lwyfannau arferol a bydd hefyd yn ymddangos ar albwm newydd Y Dail, fydd allan gyda’r Hydref meddai.