Y Selar Bach i Ysgolion Cymru ar Ddydd Miwsig Cymru

Mae cylchgrawn Y Selar wedi cyhoeddi rhifyn arbennig o gylchgrawn cryno Y Selar Bach i gyd-fynd â dydd Miwsig Cymru Ddydd Gwener diwethaf, 10 Chwefror.

Mae Y Selar Bach yn gylchgrawn cerddoriaeth Gymraeg gyfoes sydd wedi’i deilwra’n arbennig ar gyfer plant oedran blynyddoedd 5 – 8 ysgolion.

Mae’r cylchgrawn wedi’i gyhoeddi’n achlysurol dros y blynyddoedd diwethaf, a dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae Y Selar wedi cydweithio ag awdurdodau addysg yng Ngheredigion, Sir Gâr, Abertawe a Sir Benfro i ddarparu rhifyn i ysgolion y siroedd hynny bob tymor ysgol.

Llynedd, fe gyhoeddwyd rhifyn arbennig yn genedlaethol i gyd-fynd â Dydd Miwsig Cymru ac mae hynny wedi’i efelychu eleni.

Tara Bandito ydy ‘Artist y Rhifyn’ y tro hwn, ac Ysgol y Berllan Deg sy’n cael sylw eitem ‘Selar yn Gigio…yn yr ysgol’. 

Darllenwch Y Selar Bach isod neu ar safle issuu.