Mae label Recordiau Sain ar fin ail-gyhoeddi albwm ‘Yma o Hyd’ gan Dafydd Iwan ac Ar Log fel y gyntaf mewn cyfres o recordiau feinyl bydd y label yn eu hail-ryddhau.
Mae ail-ryddhau’r albwm eiconig ar ffurf feinyl yn amserol gan ei bod hi’n 40 mlynedd ers rhyddhau’r record gyntaf, a hefyd gan bod Dafydd Iwan ei hun yn dathlu ei ben-blwydd yn 80 oed.
Bydd yr albwm yn ran o becyn arbennig nifer cyfyngedig fydd hefyd yn cynnwys 2 CD sef y chwaer albwm, ‘Rhwng Hwyl a Thaith’, a CD o sengl ‘Yma o Hyd Cwpan y Byd’. Rhyddhawyd ‘Rhwng Hwyl a Thaith’ gan Dafydd Iwan ac Ar Log yn wreiddiol ym 1982, flwyddyn cyn ‘Yma o Hyd’.
Bydd y pecyn arbennig yn cael ei ryddhau ar 10 Tachwedd i gyd-fynd gyda chyfres o gyngherddau arbennig gan Dafydd Iwan a gwesteion yn Galeri Caernarfon.
Ddeugain mlynedd wedi rhyddhau’r albwm a’r gân a ddaeth, erbyn hyn, yn ail anthem cenedlaethol i’r Cymry, mae ‘Yma o Hyd’ yn sicr wedi cael bywyd newydd dros y flwyddyn a hanner ddiwethaf.
“Dechreuodd y cyfan gyda’r gêm yn erbyn Awstria ym mis Mawrth, a’r Wal Goch yn rhoi’r gân ar fap y byd” eglura Dafydd.
“Yna ail berfformiad cyn gêm Wcrain, ac yr oedd y gân wedyn ar ei ffordd i Gwpan y Byd fel anthem ein tîm pêl droed cenedlaethol. Ond mae’r hyn a ddigwyddodd wedyn yn fwy o ryfeddod fyth, gyda phlant a phobl o bob oed o bob rhan o Gymru yn gwybod y gân, a phobl o bob rhan o’r byd yn gweld fod Cymru ar lwyfan y byd.”
Mae rhagor o albyms o’r archif ar y ffordd gan Sain fel rhan o’r gyfres yn ôl y label.