Yws Gwynedd yn cydweithio gydag Alys Williams

Mae Yws Gwynedd ac Alys Williams wedi ffurfio partneriaeth ar gyfer rhyddhau sengl newydd ar y cyd. 

‘Dal Fi Lawr’ ydy enw’r trac newydd gan y ddau ac mae allan ar label Recordiau Côsh. 

Mae Alys Williams ac Yws Gwynedd wedi bod yn cyd-weithio ers blynyddoedd bellach ac wedi dod yn ffrindiau gorau wrth wneud hynny. 

Mae’n debyg bod y ddau wedi bod yn ceisio ffeindio amser i gyd-ysgrifennu a rhyddhau cân ar y cyd ers cyfarfod, ac o’r diwedd mae’r cyfle hwnnw wedi cyrraedd. 

Er mai deuawd ydynt yn dechnegol, nid yn y ffurf traddodiadol o rannu llinellau mae hynny, ond yn hytrach gydag Alys yn cynnig ei llais anhygoel fel offeryn arallfydol sy’n esgyn y gân i le gwahanol. 

Unwaith eto, cyfaill arall Yws a drymiwr ei fand, Rich James Roberts, sy’n gyfrifol am waith cynhyrchu’r sengl ac ef gafodd y syniad o greu tirwedd sain sy’n hollol wahanol i unrhyw beth mae’r band wedi’i wneud o’r blaen. 

Cafodd y gân ei chwarae a’i chlywed am y tro cyntaf ar raglen Huw Stephens ar BBC Radio Cymru wythnos diwethaf ac mae hi hefyd wedi ei chynnwys ar restr chwarae ‘New Music Friday UK’ ar Spotify.

Mae band Yws Gwynedd wedi bod yn y stiwdio yn ystod y misoedd diwethaf yn recordio pob math o ganeuon newydd fydd yn cael eu rhyddhau yn y dyfodol agos. 

Mae Alys hefyd yn gweithio ar ddeunydd newydd fydd allan yn fuan.