Mae Yws Gwynedd wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf ers dydd Gwener diwethaf, 12 Mai.
‘Charrango’ ydy enw’r trac newydd gan un o ser mwyaf y sin Gymraeg ac mae hefyd wedi cyhoeddi fideo i gyd-fynd â’r sengl.
Cafodd y fideo ei saethu gan FfotoNant yn stiwdio deledu newydd Aria, Llangefni – cartref diweddaraf set cyfres deledu boblogaidd ‘Rownd a Rownd’.
Drwy garedigrwydd y stiwdio, dyma’r cynhyrchiad allanol cyntaf i gael ei ffilmio yn Aria, gyda’r band yn defnyddio’r gofod anferth i dorri platiau a gwneud sŵn. Mae’r fideo ar gael i’w wylio ar-lein nawr.
Roedd cyfle cyntaf i glywed ‘Charrango’ yn cael ei chwarae ar y radio ar raglen Huw Stephens ar BBC Radio Cymru wythnos diwethaf.
Dyma’r ail sengl i ymddangos gan Yws Gwynedd eleni yn dilyn y trac ‘Dal Fi Lawr’ a ryddhawyd ar y cyd gydag Alys Williams ym mis Mawrth.
Mae Yws eisoes wedi cyhoeddi y bydd yn perfformio yn rhai o wyliau’r haf eleni gan gynnwys Gŵyl Canol Dre, Caerfyrddin, Gŵyl Cefni yn Llangefni a Gŵyl Maldwyn.
Bydd cyfle hefyd i’w weld yn Nhregaroc yn Nhregaron dydd Sadwrn yma.
Dyma fideo ‘Charrango’: