Agor pleidlais Gwobrau’r Selar

Mae pleidlais gyhoeddus Gwobrau’r Selar nawr ar agor.

Mae Y Selar, sef y cylchgrawn a gwefan gerddoriaeth gyfoes, yn cynnal gwobrau blynyddol ers 2009, gyda’r cyhoedd a darllenwyr Y Selar yn benodol, yn pleidleisio dros enillwyr y categorïau amrywiol

Bydd hynny’n wir eto eleni gyda’r cyhoedd yn gyfrifol am ddewis enillwyr 9 o gategorïau sy’n cynnwys Record Hir Orau, Band Gorau a Fideo Cerddoriaeth Gorau. Bydd enillwyr dwy wobr arall  yn cael eu dewis gan dîm golygyddol Y Selar sef y Wobr Cyfraniad Arbennig a Gwobr 2023. 

“Diolch i bawb a enwebodd ar gyfer categorïau Gwobrau’r Selar y tro yma, gan ein helpu i lunio’r rhestrau hir” meddai Uwch Olygydd Y Selar, Owain Schiavone. 

“Nawr rydyn ni’n gofyn i’r cyhoedd, yn gefnogwyr cerddoriaeth o bob rhan o Gymru a thu hwnt, i’n helpu unwaith eto i ddewis yr enillwyr trwy fwrw pleidlais.

“Ers pymtheg blynedd bellach mae Gwobrau’r Selar wedi bod yn arwyddocaol yn y calendr cerddoriaeth gyfoes Gymraeg, ac yn gyfle i’r ffans ddangos eu gwerthfawrogiad i’r artistiaid a’r bobl eraill sy’n allweddol i’r sin. Mae’r ffordd berffaith i ddathlu llwyddiannau’r flwyddyn sydd wedi bod, can edrych ymlaen at yr hyn a ddaw dros y flwyddyn nesaf.”

Bydd y bleidlais gyhoeddus yn cau am hanner nos ar nos Fercher 7 Chwefror, a’r enillwyr yn cael ei datgelu yr wythnos flaenorol. 

Dros y blynyddoedd fe ddatblygodd digwyddiad Gwobrau’r Selar i fod yn un o uchafbwyntiau’r calendr gigs byw, wrth i’r enillwyr gael eu datgelu fel arfer dros benwythnos gwallgof ond gwych o gerddoriaeth  yn Aberystwyth. Bu’n rhaid newid hynny dros flynyddoedd Covid, a ni fydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn digwyddiad byw eleni chwaith, ond yn hytrach na hynny bydd wythnos o gyhoeddi ar BBC Radio Cymru. 

“Rydyn ni’n falch iawn i gyd-weithio gyda BBC Radio Cymru unwaith eto eleni a bydd enillwyr pob categori’n cael eu datgelu ar raglenni amrywiol yr orsaf yn ystod wythnos 12 Chwefror” eglura Owain Schiavone. 

“Roedd y digwyddiad byw blynyddol yn gofiadwy dros ben, ac rydym ni’n trafod i weld sut fyddai modd ail-gyflwyno rhywbeth tebyg yn y dyfodol agos. Wedi dweud hynny, mae’r bartneriaeth gyda Radio Cymru i gyhoeddi’r enillwyr ar yr orsaf wedi gweithio’n arbennig o dda dros y tair blynedd ddiwethaf, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at efelychu hynny eto eleni.”

Mae pleidlais Gwobrau’r Selar ar agor nawr a gall unrhyw un fwrw pleidlais dros 9 categori ar wefan Y Selar.