Ail-ryddhau casgliad Plant Bach Ofnus

Mae unig albwm y band chwedlonnol o ddiwedd y 1980au a dechrau’r 1990au, Plant Bach Ofnus, wedi’i ryddhau ar y llwyfannau digidol am y tro cyntaf, ar Recordiau Ofn.

‘Symudiad Ymddangosol y Lleuad’ ydy enw’r record â ryddhawyd gyntaf yn 1990 ac ers dydd Gwener 1 Tachwedd mae ar gael ar y llwyfannau digidol arferol. 

Wedi eu dylanwadu gan ddulliau minimalaidd a dulliau defnyddio hap, roedd Plant Bach Ofnus yn un o artistiaid cynharaf a mwyaf dylanwadol cerddoriaeth electroneg Cymraeg a Chymreig. Fe gafodd y record ei chyfansoddi, ei recordio a’i chynhyrchu yn defnyddio technoleg gyntefig gan Gorwel Owen yn Stiwdio Ofn, Rhosneigr.

Crewyd y gwaith celf gan y diweddar, Warren Morris, ac mae’r hylifau â welir yn adlewyrchu yn berffaith y prosesau sydd yn digwydd  yn y gerddoriaeth. 

Rhyddhawyd ‘Symudiad Ymddangosol y Lleuad’ ar gasét yn 1990 ar label dylanwadol ac arbrofol y diweddar, Peter Harrison, Directions Music o Bentraeth, Ynys Môn. Rhyddhaodd Directions ddegau o albyms arbofol ar gasét dros y blynyddoedd. Cyflwynir y fersiwn digidol yma fel teyrnged i Peter a Warren.

Er mai hon oedd eu hunig albwm, rhyddhaodd Plant Bach Ofnus un sengl ‘Llwyd/Awst’ (ar feinyl 7’) a thair EP: ‘Pydredd’ (ar gaset), ‘Weitharmonisch’ (ar gaset a feinyl 12”) a ‘Y Ffordd i ’81’’ (ar gaset). 

Mae ‘Y Ffordd i ‘81’ hefyd yn arwyddocaol am fod y record gyntaf i’w rhyddhau ar label Recordiau Ofn – label a dyfodd i fod y label electroneg Gymraeg pwysicaf a mwyaf dylanwadol hyd heddiw. Yn ogystal, ymddangosodd Plant Bach Ofnus ar sawl record aml-gyfrannog a recordio dau sesiwn i raglen John Peel ar Radio 1 yn 1988 a 1991.

Trosglwyddwyd y fersiwn yma o ‘Symudiad Ymddangosol y Lleuad’ o’r tapiau 1/4” gwreiddiol gan Aled Wyn Hughes yn Stiwdio Sain cyn cael ei ôl-gynhyrchu o’r newydd gan Gethin John yn Hafod Mastering.