Ail sengl Sylfaen

Mae’r prosiect cerddorol newydd, Sylfaen, wedi rhyddhau ail sengl ar label Recordiau Côsh. 

‘Byw yn Awr’ ydy enw’r trac newydd sydd allan ers dydd Gwener 9 Chwefror, ac sy’n gweld Sylfaen yn cyd-weithio unwaith eto gyda cherddor amlwg.  

Roedd sengl gyntaf Sylfaen, ‘Canfas Gwyn’, yn lythyr gariad at bartner arweinydd y prosiect, Ifan Rhys Williams, wedi ei chanu gan ei chwaer, Alys Williams, gyda llais hyfryd Alys yn asio’n berffaith gyda’r melodïau ymlaciedig. 

I gadw pethau’n glos, mae Ifan wedi dewis ei ffrind gorau i ganu’r sengl nesaf, sef Llywelyn Elidyr Glyn o’r band Bwncath. 

Mae’r gân newydd yn cynnwys neges bwysig sef byw i’r funud, sy’n dilyn y sengl gynta’n berffaith, gydag adlais o ganu gwlad a gwerin ysgafn. 

Mae offeryniaeth y gân yn cynnwys Ifan ar y gitâr, organ geg, yn ogystal â banjo dros gant oed sy’n byw yn stiwdio Ferlas, ond yn berchen i Yws Gwynedd, rheolwr label Recordiau Côsh. 

Bydd y rhai sy’n gwrando’n astud hefyd yn clywed llais cefndir yn cael ei ganu gan wraig Ifan, Lisa Eurgain Taylor, artist hynod dalentog sydd gyda galeri celf yn Cei Llechi, Caernarfon.