Al Lewis yn rhyddhau sengl ‘Sunshine in Sorrow’

Mae Al Lewis wedi rhyddhau un o draciau ei albwm diweddaraf fel sengl ers dydd Gwener diwethaf, 1 Mawrth.

‘Sunshine in Sorrow’ ydy enw’r sengl sydd wedi’i dynnu oddi ar ei albwm, ‘Fifteen Years’ a ryddhawyd ym mis Ionawr eleni.

Mae’r trac wedi’i ysgrifennu o safbwynt tad Al lle mae’n myfyrio ar hen berthynas a’r cryfder sydd ei angen i symud ymlaen o hynny. 

Mae Sarah Howells (Bryde) hefyd yn ymddangos ar y trac gan ganu lleisiau cefndirol.