Ar ôl rhyddhau cyfres o senglau yn ystod mis Mai, mae albwm cyntaf y band band ifanc ac addawol, Tewtewtennau, wedi glanio reit ar ddiwedd y mis.
‘Sefwch Fyny’ ydy enw’r record hir newydd sydd allan ar label Bryn Roc.
Yn hanu o ardal Llansannan, Tewtewtennau ydy’r brodyr Eban ac Ianto Elwy ynghyd a’u ffrindiau oes, Hari Roberts ar y bas a Tom Smith ar y drymiau, ac maent yn ffurfio pedwarawd cyffrous.
Wedi eu dylanwadu gan gerddoriaeth gwerin, roc a hip-hop, mae Tewtewtennau yn ymfalchïo yn eu gallu i ddablo gydag amrywiaeth o genres gwahanol er mwyn creu tôn a melodïau bachog, unigryw.
Daeth Tewtewtennau yn enw cyfarwydd yn y sin Gymraeg dros wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol y llynedd pan gyrhaeddon nhw’r pedwar olaf yng nghystadleuaeth Brwydr y Bandiau, gan ennyn clod sylweddol gan y gynulleidfa. Ers hynny, mae’r band wedi tyfu mewn poblogrwydd wrth deithio dros Gymru yn gigio gan gefnogi rhai o enwau mwyaf y sin roc Gymraeg fel Bwncath, Candelas a Morgan Elwy.
Yn gynharach eleni, rhyddhawyd sengl gyntaf Tewtewtennau, ‘Rhedeg Fyny’r Mynydd’, ar label Bryn Roc. Mae’r sengl wedi derbyn canmoliaeth ar BBC Radio Cymru, ac ers hynny, wedi’i ffrydio filoedd o weithiau ar Spotify ac Apple Music.
Yn dilyn llwyddiant y sengl gyntaf honno, rhyddhawyd pedair sengl arall gan y band ym mis Mai sef ‘Ras y Llygod’, ‘Diogi’, ‘Ond Paid’ a’r trac sy’n dwyn enw’r albwm, ‘Sefwch Fyny’.
Roedd rhain yn dameidiau i aros pryd nes rhyddhau’r albwm llawn, sy’n cynnwys pump trac arall newydd sbon, ac sydd nawr ar gael ar yr holl lwyfannau digidol arferol. Mae addewid hefyd bydd yr albwm yn ar gael ar ffurf CD yn hwyrach yn y flwyddyn.
Dyma’r teitl drac, ‘Sefwch Fyny’: