Mae’r band Dub chwedlonol, Llwybr Llaethog, ar fin rhyddhau record feinyl newydd.
Bydd, ‘Peel Sessions 1987 + 1989′, yn cael eu rhyddhau ac ar gael mewn siopau ar 5 Ebrill.
Mae’r record yn un arwyddocaol gan mai hon fydd y record olaf ar label Ankstmusik yn dilyn marwolaeth trist rheolwr y label, Emyr Glyn Williams, yn gynharach eleni.
Mae’r record yn casglu ynghyd dau sesiwn a recordiodd Llwybr Llaethog ar gyfer rhaglen John Peel ar Radio 1 yn 1987 a 1989. Roedd yn gyfnod cyffrous yn hanes canu pop Cymraeg – cyfnod a welodd don newydd arloesol a chyffrous o artistiaid a labeli yn newid tirwedd ddiwylliannol Cymru a’r Gymraeg. Mae’r ddau sesiwn yma yn adlewyrchu hynny – sesiynau gwleidyddol, arloesol ac egnïol.
Un o’r pethau olaf a ysgrifennodd Emyr Glyn Williams oedd gwerthfawrogiad o Llwybr Llaethog sydd, yn ei ddull unigryw, yn gosod cyd-destun i’r record a’r cyfnod yn wych. Mae modd darllen y gwerthfawrogiad hwn yn llawn ar wefan AM.
Bydd y record yn y siopau ar 5 Ebrill ac ar werth yn uniongyrchol o safle Bandcamp Llwybr Llaethog yn dilyn hynny. Bydd y record ar gael ar y platfformau digidol ar 19 Ebrill.