Alffa yn mynd i Ganada

Mae Alffa wedi datgelu y byddan nhw’n teithio i Ganada i berffiormio ym mis Mehefin eleni.

Cyhoeddodd y ddeuawd wythnos diwethaf y byddan nhw’n chwarae yng ngŵyl NXNE yn ninas Toronto a gynhelir rhwng 12 a 16 Mehefin.

Mae’r ŵyl mewn bodolaeth ers 1995 ac yn ymfalchio mewn darganfod cerddoriaeth newydd o Ganada ac o weddill y byd, gyda dros 200,000 yn ymweld â’r digwyddiad yn flynyddol.

Mae Alffa hefyd yn dweud bod mwy o newyddion cyffrous am gigs ar y ffordd.