Angharad Rhiannon yn rhyddhau ‘Laru’

Mae Angharad Rhiannon wedi rhyddhau ei sengl newydd ers dydd Gener diwethaf, 3 Mai. 

‘Laru’ ydy enw’r cynnig diweddaraf gan yr artist o Gwm Cynon sydd wedi gweld ei gyrfa’n mynd o nerth i nerth ers i’w halbwm cyntaf, ‘Seren’, gipio gwobr ‘Record Hir Orau’ Gwobrau’r Selar 2022. 

Yn ôl Angharad, mae’r trac newydd ychydig bach yn drymach na’r caneuon mae wedi’u rhyddhau yn y gorffennol, a hynny’n adlewyrchu’r ffaith ei bod yn dal i arbrofi gyda phethau gwahanol. 

“Dw i wedi bod yn brysur iawn dros y misoedd diwethaf yn ysgrifennu ac yn recordio ac yn arbrofi gyda mathau gwahanol o ganeuon” meddai Angharad.   

“Mae ’na amrywiaeth eitha eang o ganeuon ar ei ffordd atoch chi dros y misoedd nesaf, a dwi methu aros i rannu nhw.  

“Ers i mi ddechrau ysgrifennu caneuon, mae pobl yn gofyn o hyd pwy yw fy nylanwadau a pha fath o gerddoriaeth dwi’n ysgrifennu.  Dwi’n ffeindio’r cwestiynau yma’n anodd iawn i’w hateb gan mod i’n hoffi gymaint o fathau gwahanol o gerddoriaeth a dwi ddim yn trio bod fel unrhywun penodol.  Oes rhaid i mi lynu at un math o gerddoriaeth yn unig tybed?  Cawn weld…

“Dwi wedi trio ysgrifennu rhywbeth bach yn drymach y tro yma.  Dwi’n hoff iawn o ganeuon sy’n swnio’n hwyl ond gyda geiriau pwerus.  Gobeithio mai dyna sy gen i yn y gân hon.  Mae cwpwl o bobl wedi disgrifio’r cytgan fel ear-worm ac os yw hynny’n wir, dwi’n hapus iawn.  Dwi ishe i bawb sy’n clywed hon fod yn canu hi yn syth!”

Mae Angharad yn gobeithio cael cyfle i gigio dipyn dros yr haf, a bydd cyfle cyntaf i glywed ‘Laru’ yn cael ei pherfformio’n fyw yn un o wyliau cyntaf yr haf meddai.   

“Ges i lawer o hwyl yn ysgrifennu hon ac yn recordio hi felly gobeithio bydd pawb yn mwynhau gwrando arni hefyd. Dwi methu aros i berfformio ‘Laru’ am y tro cyntaf yng Ngŵyl Fach y Fro mewn pythefnos!”

Cynhelir Gŵyl Fach y Fro yn y Bari ar 18 Mai, a bydd cyfle hefyd i weld Angharad Rhiannon yn perfformio gyda Bronwen Lewis yng Ngartholwg ar 25 Mai mewn gig codi arian ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol.