Artistiaid Cymraeg yn SXSW

Mae gŵyl ‘showcase’ gerddoriaeth enwog South by South West (SXSW) yn digwydd yn Austin, Texas yr wythnos hon gyda mwy o artistiaid Cymraeg nag erioed yn cymryd rhan.

Mae SXSW yn un o ddigwyddiadau cerddorol amlycaf y flwyddyn, ac mae’n uchelgais i lawer o artistiaid berfformio yno.

Tîm FOCUS Wales yn Wrecsam sy’n gyfrifol am drefnu’r slotiau showcase ar gyfer artistiaid Cymraeg yno, ac mae mwy nag erioed o Gymru’n perfformio eleni.

Mae saith o artistiaid Cymreig yn perfformio i gyd sef Gruff Rhys, Islet, HMS Morris, Lemfreck, Aleighcia Scott, Minas ac Otto Aday. 

Cynhelir yr ŵyl rhwng 8 ac 16 Mawrth.